Amdanom ni

Amgueddfa Rheilffyrdd Bach Cul

Mae'r Amgueddfa Rheilffyrdd Bach Cul yn Nhywyn yn cynnwys bron i fil o eitemau o reilffyrdd bach cul Prydain ac Iwerddon. Yr eitemau mwyaf trawiadol yw'r locomotifau, wagenni a signalau. Mae arddangosfeydd o rannau o draciau, platiau enwau, tocynnau, lampau, amserlenni, arwyddion a nifer o fân eitemau a oedd unwaith yn cael defnydd dyddiol ar y rheilffyrdd bach yma yn llunio casgliad o ddiddordeb unigryw. Mae'r amgueddfa yn dweud stori Rheilffordd Talyllyn yng nghyd-destun rheilffyrdd chwareli gogledd a chanolbarth Cymru a hanes ehangach rheilffyrdd bach cul ar Ynysoedd Prydain. Mae hanes yn fyw y tu allan hefyd lle gwelir wagenni wedi eu hadfer o reilffyrdd eraill o Gymru yn ogystal â Thalyllyn a chedwir arddangosfeydd eraill yng ngorsaf Abergynolwyn. Ar Reilffordd Talyllyn ei hun fe welir y locomotif a'r cerbydau gwreiddiol o 1865 yn aml wrth eu gwaith, ochr yn ochr â cherbydau ychydig iau o Reilffordd Corris a Ffordd Dramiau'r Glyn.